Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Adroddiad Drafft

CLA(4)-25-13

 

CLA323 - Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013

 

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 4 i Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (‘Deddf 1975’) er mwyn awdurdodi Gweinidogion Cymru i wrth-wneud hawddfreintiau a hawliau eraill sy’n cyfyngu ar y defnydd o dir y maent wedi ei gaffael o dan adran 21A o Ddeddf 1975. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud hyn ond os yw’r defnydd yn unol â chaniatâd cynllunio. 

 

GweithdrefnCadarnhaol

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

 

Yn achos Thames Water Utilities yn erbyn Cyngor Sir Rhydychen [1999], pan benderfynwyd mai dim ond yn ystod y cyfnod adeiladu y ceir dileu cyfyngiadau sy’n effeithio ar deitl eiddo, bwrwyd amheuaeth ar y gallu i ddileu cyfyngiadau yn barhaol.  O ganlyniad i’r penderfyniad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn datgan yn y Memorandwm Esboniadol bod angen diwygio Deddf 1975 i gael gwared ar yr amheuaeth hon. Mae Adran 194(2) o Ddeddf Cynllunio 2008 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn i ddiwygio Deddf 1975.  Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn egluro pam y mae’r ddeddfwriaeth yn cael ei diwygio yn awr yn sgîl y penderfyniad a wnaed fel rhan o’r achos ym 1999 a phwerau i wneud gorchmynion a roddwyd i Weinidogion Cymru yn 2008.

 

[Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Hydref 2013